Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 3
Hydref 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 3.
(0 munud)
Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
(5 munud)
NDM6822 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).
NDM6823 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
(5 munud)
NDM6817 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gweithredu Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 21 a 27, a chyflwyno Rheolau Sefydlog newydd 30B a 30C, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Dogfen
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Busnes
(60 munud)
NDM6814 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Ddeisebau ar Deiseb P-04-682, 'Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Gorffennaf 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2018.
(60 munud)
NDM6801
Lynne Neagle (Torfaen)
David Rees (Aberafan)
Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cefnogwyr
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y bu 263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac, yn aml, na all teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad priodol at wasanaethau neu gymorth.
2. Yn croesawu wythnos ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban.
3. Yn cydnabod bod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig i rieni mewn profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, uno a choffáu bywydau eu babanod.
4. Yn cydnabod y dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal pan fydd baban yn marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall helpu rhieni drwy'r amser trychinebus hwn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei dderbyn ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy:
a) ymrwymo i ddarparu gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal hwnnw;
b) mabwysiadu set graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u defnyddio i ategu'r Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill y DU;
c) gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol - Marwolaeth plant yng Nghymru a Lloegr yn 2018 (Saesneg yn unig)
(60 munud)
NDM6816 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU-gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl.
2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl “credu” a rhoi yn ei le:
bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.
(30 munud)
NDM6815 Nick Ramsay (Mynwy)
Gweld pethau'n wahanol – byw gyda cholli golwg yng Nghymru heddiw.
Sut y gallwn ddileu’r hyn sy’n rhwystro pobl ddall a rhannol ddall rhag cyfranogi'n gyfartal i gymdeithas.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Hydref 2018